Maint y testun: A A A
Cyferbynnedd:
Gwrando: More about BrowseAloud
Teithio gydag anabledd

Teithio gydag anabledd

Nod y dudalen hon yw darparu gwybodaeth ddefnyddiol i deithwyr anabl. Er ein bod yn gwneud pob ymdrech i ddarparu gwybodaeth ar ran cwmnïau bysiau a threnau yng Nghymru, ni allwn sicrhau y bydd gennym wybodaeth i deithwyr anabl. Byddem yn cynghori teithwyr i gysylltu â’r cwmni bysiau neu’r cwmni trenau cyn teithio, er mwyn cadarnhau unrhyw wybodaeth.

I gael gwybodaeth gynhwysfawr gan Lywodraeth Cymru am y manylion sydd ar gael i deithwyr ag anawsterau symud, ewch i wefan y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig.

 

Cael gafael ar wybodaeth Traveline Cymru

Cynhelir profion ar y wefan hon i sicrhau ei bod yn cydymffurfio â lefel AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We.

Mae Canolfan Gyswllt Traveline Cymru yn defnyddio system ‘BT Typetalk’, ac mae’r holl asiantiaid wedi’u hyfforddi i ddefnyddio’r cyfleuster.

Os oes gwybodaeth am hygyrchedd arosfannau a gwasanaethau ar gael, bydd y Ganolfan Gyswllt yn gallu ei rhoi i chi.

 

Gwybodaeth am hygyrchedd i bobl anabl sy’n defnyddio bysiau

Gweler y dolenni isod i gael gwybodaeth am hygyrchedd i bobl anabl gan y gweithredwyr canlynol:

Bysiau Arriva
Bws Caerdydd

First Cymru
Newport Bus

Stagecoach

 

Pobl sy’n defnyddio sgwteri i bobl anabl

Mae’r Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr wedi cyhoeddi canllawiau ar gyfer teithwyr sy’n defnyddio sgwteri i bobl anabl ac sy’n dymuno defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, a gallwch weld y canllawiau yn y fan hon.

Cysylltwch â’ch gweithredwr o flaen llaw er mwyn gwneud yn siŵr y bydd cerbydau â llawr isel yn cael eu defnyddio ar gyfer eich taith. Gellir gweld manylion cyswllt y gweithredwyr yma.

I gael gwybodaeth am ddefnyddio sgwteri i bobl anabl ar wasanaethau Trenau Arriva Cymru, cliciwch yma.

 

Teithwyr â nam ar eu golwg

Mae’r elusen sy’n ymwneud â cholli golwg, RNIB Cymru, wedi cynhyrchu’r canllaw ‘Dewch gyda ni’ sy’n ymdrin â’r ystod eang o broblemau y mae pobl â nam ar eu golwg yn dod ar eu traws yn rheolaidd. I gael rhagor o wybodaeth am y canllaw ‘Dewch gyda ni’, ewch i wefan RNIB Cymru.

 

Teithio â Chymorth gyda Trenau Arriva Cymru

Os hoffech gael cymorth wrth deithio, cysylltwch â’r gwasanaeth Teithio â Chymorth gyda Trenau Arriva Cymru cyn dechrau ar eich taith. Gallwch gysylltu â’r tîm Teithio â Chymorth ar 033 300 50 501.

I gael gwybodaeth ychwanegol am y gwasanaeth hwn, gallwch gysylltu ag Adran Cysylltiadau Cwsmeriaid Trenau Arriva Cymru drwy ffonio 0845 300 3005 neu 0845 758 5469 (ffôn testun), neu drwy ebostio customer.relations@arrivatrainswales.co.uk.

I gael gwybodaeth bellach am gyfleusterau a hygyrchedd gorsafoedd penodol, defnyddiwch adnodd chwilio am orsaf Trenau Arriva. Yn ogystal, gallwch gael gwybodaeth am deithio gydag anabledd gan y gwasanaeth cenedlaethol sy’n ymdrin ag ymholiadau ynghylch rheilffyrdd (National Rail Enquiries) ar wefan y gwasanaeth yn y fan hon.

 

I gael gwybod pa weithredwr trenau y byddwch yn teithio gydag ef, ffoniwch Adran Cysylltiadau Cwsmeriaid National Rail Enquiries ar 08457 48 49 50 neu ewch i http://www.nationalrail.co.uk/stations. Bydd y tîm yn y fan honno’n gallu darparu rhif ffôn pob gweithredwr trenau er mwyn cael cymorth i bobl anabl.

 

Toiledau hygyrch yng Nghymru

I gael gwybodaeth am doiledau hygyrch wrth ymyl gorsafoedd bysiau, gorsafoedd trenau a’r prif gyfnewidfeydd bysiau:

  • Gallwch edrych ar-lein i weld lleoliad y toiledau cyhoeddus sy’n perthyn i RADAR/Y Cynllun Allwedd Cenedlaethol.
  • Os ydych yn teithio ar y trên, gallwch edrych ar dudalen National Rail Enquiries ar gyfer gorsafoedd a chyrchfannau a nodi enw neu god tair llythyren yr orsaf yr ydych yn galw ynddi, er mwyn cael manylion y cyfleusterau sydd ar gael yn yr orsaf honno.

 

Dolenni defnyddiol

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
Anabledd Cymru
Y Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr
Yr Adran Drafnidiaeth
Y Gymdeithas Cludiant Cymunedol
Cerdyn Rheilffordd Person Anabl
Epilepsy Action
You’re Able
Pembrokeshire Access
RNIB Cymru
Bus Users UK
Bwcabus