Maint y testun: A A A
Cyferbynnedd:
Gwrando: More about BrowseAloud
Polisi Preifatrwydd

Polisi Preifatrwydd

 

DEFNYDD O’R WEFAN HON

Cytundeb rhyngoch chi, y ‘Defnyddiwr’ a’r ‘Wefan’ hon www.traveline.cymru.

Cynigir y wefan hon fel gwasanaeth rhad ac am ddim. Mae eich defnydd o’r Wefan hon a/neu eich derbyniad heb addasiad o’r Amodau a’r Telerau sy’n gynwysedig yma yn gyfystyr â’ch bod yn cytuno i dderbyn yr holl Amodau a Thelerau. Os nad ydych yn cytuno â’r Amodau a’r Telerau hyn yna nid ydych yn awdurdodedig i ddefnyddio’r Wefan a dylech ymatal rhag unrhyw ddefnydd anawdurdodedig pellach o’r Wefan hon (awgrymwn eich bod yn cau eich porwr i sicrhau bod yr holl wybodaeth wedi’i glirio o’ch Cyfrifiadur; nid ydym yn defnyddio unrhyw ‘cwcis’ nac unrhyw ddyfais arall i storio unrhyw wybodaeth ar gyfrifiadur defnyddiwr ar wahân i gof y porwr). Cedwir yr hawl i addasu, newid, neu fel arall ddiweddaru’r Amodau a’r Telerau hyn ar unrhyw adeg ac yr ydych yn cytuno i fod yn rhwymedig gan y cyfryw addasiadau, newidiadau neu ddiweddariadau.

Gwefannau Trydydd Person/Gwefannau Cysylltiol:

Mae’n bosibl y gallwn ddarparu dolenni i Wefannau a gaiff eu cynnal a’u cadw gan eraill (‘Gwefannau Trydydd Person’). Nid ydym wedi adolygu pob Gwefan Trydydd Person sy’n gysylltiedig â’n Gwefan ni, ac nid ydym yn gyfrifol am gynnwys nac am unrhyw gynnyrch neu wasanaethau a gynigir mewn Gwefannau Trydydd Person o’r fath.

Cyfyngiadau Defnydd Personol ac Anfasnachol:

Darparwyd y Wefan hon ar gyfer defnydd personol ac anfasnachol. Ni ellwch addasu, copïo, dosbarthu, trawsyrru, arddangos, perfformio, atgynhyrchu, cyhoeddi, trwyddedu, creu gweithiau deilliadol ohoni, trosglwyddo, neu werthu unrhyw wybodaeth, gynhyrchion neu wasanaethau a gafwyd o wybodaeth sy’n ddeilliedig o’r Wefan hon.

Ymwadiad

Darperir y Wefan hon ar gyfer gwybodaeth yn unig. Nid ydym yn gyfrifol nac yn atebol, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, am unrhyw ffurf o iawndal pa beth bynnag o ganlyniad i’r defnydd (neu gamddefnydd) o wybodaeth sy’n gynwysedig neu’n ymhlyg yn y wybodaeth ar y safle hwn, ac fel y cyfryw nid ydym yn gyfrifol am y canlyniadau sy’n deillio o ddefnyddio gwybodaeth o’r fath.

Diogelu data

Pryd y byddwn yn casglu gwybodaeth gan ddefnyddwyr?

Pan fyddwch yn cofrestru cyfrif ar y wefan hon, neu pan fyddwch yn cofrestru i gael ein llythyr newyddion drwy ebost.

Pa wybodaeth y byddwn yn ei chasglu?

Dim ond y wybodaeth yr ydych yn dewis ei darparu y byddwn yn ei chasglu.

Bydd angen cyfeiriad ebost i gofrestru cyfrif a chofrestru i gael y llythyr newyddion.

Bydd angen eich enw i gofrestru cyfrif.

Does dim rhaid i chi ddarparu eich rhif ffôn symudol.

Sut y byddwn yn defnyddio’r wybodaeth y byddwn yn ei chasglu?

Er mwyn anfon hysbysiadau atoch ynghylch problemau teithio sy’n effeithio ar eich hoff lwybrau. Gallwch ddewis cael y wybodaeth hon ai peidio, a gallwch ddewis cael y wybodaeth drwy neges destun, drwy ebost neu’r ddau.

Er mwyn anfon negeseuon ebost atoch, ond dim ond os ydych wedi cofrestru i gael y llythyr newyddion.

A all defnyddwyr gywiro, golygu neu ddileu eu gwybodaeth?

Gallwch ddefnyddio eich negeseuon ebost i dynnu eich enw oddi ar restr bostio ein llythyr newyddion. Pan fyddwch wedi gwneud hynny, ni fyddwn yn parhau i anfon negeseuon i’r cyfeiriad ebost hwnnw.

Pan fyddwch wedi cofrestru cyfrif, gallwch olygu’r wybodaeth am eich cyfrif dan y tab ‘Cyfrif’ pan fyddwch wedi mewngofnodi.

Gallwch hefyd ddewis yr opsiwn sy’n gadael i chi newid eich cyfrinair presennol os ydych wedi ei anghofio.

 

POLISI PREIFATRWYDD

Os ydych yn credu eich bod wedi derbyn e-bost na ofynnwyd amdano gan ein sefydliad, yna anfonwch eich cwyn at ein Swyddog Gwarchod Data os gwelwch yn dda, ynghyd â chopi o’r e-bost na ofynnwyd amdano a gwnawn bopeth yn ein gallu i sicrhau nad yw hyn yn digwydd eto.

Nid ydym yn casglu unrhyw wybodaeth yn awtomatig yngl?n â defnyddwyr y wefan hon. Rydym yn casglu gwybodaeth yngl?n â defnyddwyr sy’n dewis cyfathrebu’n wirfoddol â ni drwy e-bost neu gyflwyniad drwy ein tudalennau cyswllt neu ffurflen ymholiad. Rydym hefyd yn casglu gwybodaeth cyfanredol cyffredinol yngl?n â’r defnydd o’r wefan at ddibenion ystadegol.

Yn dilyn cais ysgrifenedig, byddwn yn darparu’r holl wybodaeth a gedwir yngl?n â defnyddiwr penodol; fodd bynnag, bydd angen prawf adnabod cyn y byddwn yn darparu’r wybodaeth honno.

Os ydych yn darparu gwybodaeth i ni drwy ein ffurflenni cyswllt, byddwch yn derbyn ymateb i’ch rhesymau dros gysylltu yn unig, ni fyddwn yn cysylltu â chi am unrhyw reswm arall. Fodd bynnag, os ydym o’r farn bod gennym gynnig neu wasanaeth newydd sy’n berthnasol i’ch ymholiad penodol, mae’n bosibl y byddwn yn cysylltu â chi eto yn y dyfodol. Os nad ydych yn dymuno i ni gysylltu â chi yn y modd hwn, a’ch bod am ddiddymu eich tanysgrifiad o’n cronfa ddata, yna rhowch wybod i ni os gwelwch yn dda drwy anfon e-bost byr atom. Ni fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth â thrydydd person oni bai eich bod am i ni wneud hynny.

Rydym yn cadw’r hawl i newid geiriad y polisi hwn ar unrhyw adeg. Os ydym yn teimlo ei bod hi’n addas i newid y polisi, byddwn yn hysbysu defnyddwyr y wefan hon drwy bostio’r geiriad newydd ar y dudalen we hon.