Traveline Cymru yn cipio un o wobrau cenedlaethol y Sefydliad Siartredig Logisteg a Thrafnidiaeth (CILT) ar gyfer 2014
14 Mai
Ddydd Gwener 9 Mai, roeddem yn bresennol yn y seremoni ar gyfer cyflwyno Gwobrau Cenedlaethol Trafnidiaeth a Logisteg 2014 CILT yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd. Rydym yn falch iawn o fod wedi ennill y wobr ar gyfer Rhagoriaeth mewn Gwella Profiadau Cwsmeriaid, ar ôl i ni gyflwyno ein gwasanaeth gwybodaeth am brisiau tocynnau.