Maint y testun: A A A
Cyferbynnedd:
Gwrando: More about BrowseAloud
Newyddion

Stagecoach welcomes new Commercial Manager on board

23 Mai
Stagecoach in South Wales has made a key addition to its senior team, with the appointment of a new Commercial Manager. 

First Cymru yn helpu Toby i fynd ar y bws

10 Mai
Mae’n siŵr bod sawl un ohonom wedi breuddwydio am gael eistedd yn sedd y gyrrwr bws pan oeddem yn blant. Ac roedd cael gwneud hynny’n brofiad arbennig i Toby Williams, 9 oed, o Hwlffordd pan gafodd gyfle i archwilio bws ac ynddo 37 sedd. 

Pam y bydd yr hen fysiau oren enwog i’w gweld yng Nghaerdydd unwaith eto

06 Mai
Mae’r brand wedi’i ailgyflwyno er mwyn nodi pen-blwydd y cwmni bysiau, Bws Caerdydd, yn 30 oed.

Gwasanaeth bws rhif 19 newydd Llew Jones International yn cael ei lansio yng nghwmni gwestai arbennig, Guto Bebb AS

05 Mai
Cynhaliodd Llew Jones International ddigwyddiad agored i bawb er mwyn lansio gwasanaeth bws newydd sbon â chyfleuster WiFi, sef gwasanaeth rhif 19. Cafodd y digwyddiad lansio ei gynnal ddydd Llun Gŵyl y Banc ar Sgwâr Llanrwst.

Cyfle i ennill iPhone drwy fynd i’r Bannau yn y Flwyddyn Newydd

05 Mai
Cafodd y gystadleuaeth ei lansio ddydd Llun 4 Ionawr ar Instagram wrth i Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog gyhoeddi cyfle i ennill iPhone 6S i ddathlu Blwyddyn Antur 2016 Cymru.

Gwybodaeth am Wyliau Banc mis Mai

26 Ebr
Isod, fe welwch rai o’r trefniadau a fydd ar waith ar gyfer gwasanaethau dros Wyliau Banc mis Mai.

Traveline Cymru yn lansio gwasanaeth gwybodaeth newydd i fyfyrwyr

22 Ebr
Mae Traveline Cymru, sef gwasanaeth Llywodraeth Cymru sy’n rhoi gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus, wedi lansio gwefan wybodaeth newydd yn benodol i fyfyrwyr.

Ymestyn oriau agor Canolfan Gyswllt Traveline Cymru tan 11pm oherwydd streic tacsis Caerdydd

15 Ebr
Mae Canolfan Gyswllt Traveline Cymru yn ymestyn ei horiau agor tan 11pm ar ddydd Gwener 15 Ebrill a dydd Sadwrn 16 Ebrill oherwydd y streic a gynllunnir gan dacsis Caerdydd.

Bysiau Stagecoach Yn Y De Yn Defnyddio Cardiau Clyfar. Cynnig Arbennig - Megarider Gold Bellach Yn £19 Yr Wythnos Yn Gyda Megarider Xtra Gold

14 Ebr
Mae technoleg CERDYN CLYFAR wedi’i chyflwyno ar fysiau yn ne Cymru gan y gweithredwr bysiau Stagecoach, a bydd modd i ddefnyddwyr bysiau ar draws y rhanbarth elwa ar ostyngiadau o hyd at 20% os ydynt yn teithio’n rheolaidd.

Bydd gwasanaeth bws yn rhedeg drwy’r nos yng Nghaerdydd os bydd y gyrwyr tacsis yn penderfynu bwrw ymlaen â’r streic

13 Ebr
Bydd penaethiaid gwasanaethau cludiant yn cynnig gwasanaeth bws drwy’r nos yng Nghaerdydd os bydd y gyrwyr tacsis yn penderfynu bwrw ymlaen â’r streic sydd wedi’i chynllunio ar gyfer y mis yma.

Traveline Cymru yn cyflwyno rhif ffôn rhatach 0300

01 Ebr
Mae Traveline Cymru wedi newid ei rif ffôn o 0871 i 0300 er mwyn iddi fod yn rhatach i’w gwsmeriaid yng Nghymru ddefnyddio ei wasanaethau.

Gwaith Gwella Network Rail Trenau Arriva Cymru, dydd Sadwrn 26 Mawrth (o 21:00) – dydd Mawrth 29 Mawrth 2016.

21 Maw
Gwaith gwella Network Rail. Dydd Sadwrn 26 Mawrth (o 21:00) – dydd Mawrth 29 Mawrth 2016 gan gynnwys y diwrnodau hynny

Traveline Cymru yn cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr Womenspire

18 Maw
Mae Traveline Cymru, gwasanaeth gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus Llywodraeth Cymru, wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr Womenspire yng nghategori’r sector cyhoeddus.

Yr orsaf drenau yng Nghymru sydd wedi gweld cynnydd o 2,100% yn nifer y teithwyr

15 Maw
Mae dadansoddiad newydd wedi datgelu sut y mae’r atgyfodiad ym mhoblogrwydd teithio ar y trên ynghyd â buddsoddiad wedi trawsnewid y rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru.

Cynllun fyngherdynteithio yn dathlu ei 5,000fed aelod

14 Maw
Mae mwy na 5,000 o bobl ifanc wedi cael fyngherdynteithio ac yn cael budd ohono. Mae hwn yn gynllun sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru sy'n cynnig gostyngiad ar deithiau bws i bobl ifanc 16-18 oed yng Nghymru, ers iddo gael ei lansio chwe mis yn ôl.

Gwybodaeth am deithio dros gyfnod y Pasg

09 Maw
Bydd gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus yn newid dros gyfnod y Pasg. Mae ein cynlluniwr taith yn cael ei ddiweddaru’n rheolaidd â’r wybodaeth ddiweddaraf am batrymau gwasanaeth.

First Cymru yn enwi bws Clipiwr Cymru ar ôl gyrrwr annwyl

08 Maw
Mae’r gweithredwr bysiau First Cymru wedi enwi bws Clipiwr Cymru ar ôl y cyn-yrrwr Adrian Spencer, a fu farw’n sydyn ar 2 Chwefror 2016 yn 47 oed.

Disgyblion meithrin wrth eu bodd ar y bws yn ystod ymweliad ysgol

03 Maw
Daeth un o fysiau Bws Caerdydd i ymweld â disgyblion meithrin Ysgol Gynradd Marlborough yn y Rhath yn rhan o’r gwaith mae’r disgyblion yn ei wneud ar drafnidiaeth.

Arolwg adborth cwsmeriaid - fyngherdynteithio

02 Maw
Mae fyngherdynteithio yn gynllun a ariennir gan Lywodraeth Cymru, sy’n galluogi pobl ifanc 16, 17 ac 18 oed i gael 1/3 oddi ar bris tocynnau bws yng Nghymru.

Cyflwyno gwasanaeth Bws Arfordir Llŷn

25 Chw
Mae Bws Arfordir Llŷn yn wasanaeth bysiau newydd a fydd yn rhedeg ar hyd arfordir y gogledd-orllewin o fis Mawrth. Bydd y gwasanaeth yn dilyn amserlen benodol a bydd hefyd yn cynnig gwasanaeth hyblyg mewn ardaloedd gwledig.