Maint y testun: A A A
Cyferbynnedd:
Gwrando: More about BrowseAloud
Prisiau tocynnau

Prisiau tocynnau

Gellir gweld gwybodaeth am brisiau tocynnau ar gyfer eich taith drwy ganlyniadau ein Cynlluniwr Taith. Dan fanylion y daith, ceir tab ‘Gweld prisiau tocynnau’. Cliciwch ar y tab, a bydd rhestr o’r tocynnau sydd ar gael a’u prisiau yn ymddangos.

Mae ychwanegu prisiau tocynnau at y wefan yn dasg enfawr, felly nid yw’r holl wybodaeth am brisiau tocynnau ar gael ar hyn o bryd, yn anffodus. I weld rhestr o’r gweithredwyr nad oes gennym brisiau tocynnau ar eu cyfer, cliciwch yma.

Caiff tocynnau ar gyfer pob gwasanaeth bws lleol a bws pellter hir yng Nghymru eu gwerthu gan yrrwr y bws. Fodd bynnag, ar gyfer rhai gwasanaethau megis National Express a Megabus, fe’ch cynghorir i brynu tocynnau o flaen llaw drwy wefan y cwmni, oherwydd gallai pob sedd fod wedi’i chymryd.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am brisiau tocynnau gweithredwr bysiau penodol, ewch i wefan y gweithredwr i gael rhagor o wybodaeth. Mae’r dolenni ar gyfer y gwefannau hynny i’w gweld ar ein tudalen Dolenni Defnyddiol.

 

Tocynnau sy’n berthnasol i fwy nag un gweithredwr

Os oes gennych ddiddordeb mewn prynu tocynnau sy’n berthnasol i fwy nag un gweithredwr, cliciwch ar y dolenni isod i gael rhagor o wybodaeth am yr hyn sydd ar gael:

Tocyn Crwydro Coch Gogledd Cymru
Plus Bus
Sherpa’r Wyddfa
Pas Fflecsi Crwydro Cymru
Tocyn Crwydro Gorllewin Cymru