Maint y testun: A A A
Cyferbynnedd:
Gwrando: More about BrowseAloud
Beicio a cherdded

Beicio a cherdded

Gall beicio neu gerdded gynnig manteision gwych – maent yn hwyl ac yn arbed arian i chi ac maent yn lleihau eich ôl troed carbon ac yn helpu’r amgylchedd. Mae’r dudalen hon yn cynnwys rhywfaint o wybodaeth ddefnyddiol pe baech yn dewis cerdded neu feicio ar hyd rhan o’r daith neu’r daith gyfan.

Sustrans

Elusen flaenllaw ym maes trafnidiaeth gynaliadwy yn y DU yw Sustrans, ac mae’n darparu gwybodaeth ynghylch sut i deithio drwy feicio neu gerdded. Mae hefyd yn gweithio i wella seilwaith, megis y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol, er mwyn galluogi pobl i deithio mewn ffyrdd mwy cynaliadwy. Gallwch weld gwefan yr elusen yma.

 

Beiciau ar fysiau

Er ein bod yn gwneud ein gorau glas i sicrhau bod y wybodaeth sydd ar ein gwefan yn cael ei diweddaru, byddem yn eich cynghori i ofyn i’r gweithredwr bysiau/trenau a allwch chi fynd â’ch beic ar wasanaethau penodol, cyn i chi deithio.

First Cymru: Dim ond beiciau y mae modd eu plygu ac y gellir eu rhoi yn y lle dal bagiau y caiff teithwyr fynd â nhw ar wasanaethau bws First Cymru.

Bws Gwennol Caerdydd – Abertawe: Gellir cludo beiciau ar y bws gwennol y mae First Cymru yn ei weithredu.

Gwibfws yr Arfordir 387 Silcox (Doc Penfro - Penfro - Angle - Freshwater West - Castellmartin, Bosherston, Stackpole a Freshwater East): gall y bws hwn gludo hyd at ddau feic (a byrddau syrffio!)

Bws y Bannau B1 (Aberhonddu – Caerdydd) a B4 (Aberhonddu – Y Fenni): gall y bysiau hyn gludo beiciau ar ddydd Sul ac ar ddydd Llun Gŵyl y Banc o fis Mai i fis Medi.

Beiciau ar drenau

Gallwch fynd â’ch beic yn rhad ac am ddim ar y rhan fwyaf o wasanaethau Trenau Arriva. Mae’n rhaid cadw lle ar rai gwasanaethau. Ffoniwch ein Canolfan Gyswllt ar 0871 200 22 33 i gael rhagor o wybodaeth.

Beiciau ar fysiau National Express

Gellir cludo beiciau ar fysiau National Express os ydynt wedi’u lapio neu’u pacio mewn cês neu fag priodol. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â National Express drwy ffonio 08717 818181.

Beicio
Cliciwch ar y dolenni isod i gael rhagor o wybodaeth am feicio yng Nghymru:

Cycle Wales
Beicio yn y gogledd
Gwyliau beicio yng Nghymru
Beicio yn y canolbarth
Beicio Cymru
Hyfforddiant Beicio Cymru
Cycle Solutions

 

Cerdded
Cliciwch ar y dolenni isod i weld gwybodaeth am gerdded yng Nghymru:

Cerdded yng Nghymru
Gwyliau cerdded yng Nghymru
Llwybrau Cenedlaethol
Teithiau cerdded heb gar
Walking Britain
Cerdded yn Sir Benfro
Ramblers (Cymdeithas y Cerddwyr)
Ramblers Cymru (Y Cerddwyr)
Gwyliau Celticos

 

Dolenni ar gyfer awdurdodau lleol ynghylch beicio/cerdded
Cliciwch ar y dolenni isod i gael gwybodaeth am feicio a cherdded gan awdurdodau lleol.

Blaenau Gwent
Caerdydd
Ceredigion
Conwy
Sir Ddinbych
Merthyr Tudful
Castell-nedd Port Talbot
Casnewydd
Sir Benfro
Rhondda Cynon Taf
Torfaen
Bro Morgannwg
Wrecsam