Maint y testun: A A A
Cyferbynnedd:
Gwrando: More about BrowseAloud
Gwasanaethau i fusnesau

Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu pedwar o Gydlynwyr Cynlluniau Teithio ar draws Cymru i’ch cefnogi drwy bob cam o’r broses o ysgrifennu a gweithredu Cynllun Teithio.

Mae’r tîm yn gweithio gyda busnesau a sefydliadau eraill ac yn gweld rhai enghreifftiau da iawn o newid mewn ymddygiad o ran teithio.

Does dim gwahaniaeth beth yw maint eich sefydliad, mae’r tîm yn barod i’ch helpu a’ch cefnogi. Dyma rai o’r manteision y mae sefydliadau sydd eisoes yn gweithio gyda’r tîm wedi’u gweld:

  • Gostyngiad yn nifer y ceir â’r gyrrwr yn unig ynddynt sy’n cyrraedd y safle – sy’n achosi llai o dagfeydd
  • Mwy o bobl yn rhannu ceir
  • Gweithwyr mwy heini ac egnïol
  • Lefelau is o salwch
  • Lefelau is o drosiant staff
  • Gwell mynediad i’r safle
  • Arbedion cost.

Yn ogystal, gall Cynlluniau Teithio ddarparu tystiolaeth werthfawr wrth geisio ennill Gwobrau a chyrraedd Safonau eraill, megis:

  • Y Safon Iechyd Corfforaethol (dros 50 o staff)
  • Gwobrau Iechyd ar gyfer gweithleoedd bach (dan 50 o staff)
  • Buddsoddwyr mewn Pobl
  • Y Ddraig Werdd / ISO140001
  • Safon PAS500:2008 y Sefydliad Safonau Prydeinig

Dolenni defnyddiol:

Y Safon Iechyd Corfforaethol
Buddsoddwyr mewn Pobl
Groundwork Cymru

Mae’r ddwy fenter newydd ganlynol ar gael erbyn hyn i sefydliadau ledled Cymru:

Hyfforddiant Teithio Doeth

Mae’r pecyn hyfforddiant dibynadwy hwn, sydd wedi’i deilwra, ar gael yn rhad ac am ddim i bob busnes a sefydliad ar draws Cymru.
Gan weithio gyda’i bartneriaid – Traveline Cymru, Sustrans a darparwyr lleol – bydd y Tîm Cynlluniau Teithio Rhanbarthol yn darparu sesiynau hyfforddiant i grwp o unigolion a fydd yna’n gallu bod yn hyrwyddwyr teithio cynaliadwy i’w sefydliad. Bydd yr hyrwyddwyr hynny’n bobl gyswllt ar gyfer gweithwyr/myfyrwyr/ymwelwyr, neu unrhyw bobl eraill y mae angen iddynt wneud dewisiadau ynghylch teithio mewn sefydliad.

Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.

 

Gwobrau Cynlluniau Teithio Cymru

Cynllun gwobrwyo a chydnabod sy’n dathlu cyflawniadau sefydliadau yw Gwobrau Cynlluniau Teithio Cymru. Mae llawer o sefydliadau yng Nghymru yn arwain y ffordd gyda’u dull cynaliadwy o ymdrin â theithio a defnyddio trafnidiaeth yn eu sefydliad. Mae llawer ohonynt o’r farn bod gweithredu Cynllun Teithio yn rhan o’u cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol.

Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth neu cysylltwch â’ch Cydlynydd Cynlluniau Teithio Rhanbarthol yn activetravel@wales.gsi.gov.uk

 

Fforymau a rhwydweithiau

Mae nifer o fforymau a rhwydweithiau Cynlluniau Teithio ar gael yng Nghymru y byddech efallai’n hoffi eu mynychu, neu os nad oes un ar gael yn eich ardal efallai yr hoffech gynnal un. Cysylltwch â’ch Cydlynydd Cynlluniau Teithio Rhanbarthol i gael rhagor o fanylion a gwybodaeth am y cynnyrch a’r gwasanaethau eraill sydd ar gael.

Os oes gennych eich fforwm neu’ch rhwydwaith eich hun ac y byddech yn hoffi i un o’r Cydlynwyr Cynlluniau Teithio Rhanbarthol ei fynychu, mae croeso i chi ein gwahodd iddo.

Pwy y mae’r Cydlynwyr Cynlluniau Teithio Rhanbarthol eisoes yn cydweithio â nhw?

Dyma rai o’r sefydliadau yng Nghymru sydd eisoes yn gweithio gyda’r Cydlynwyr Cynlluniau Teithio ac sy’n gweld y manteision.

  • Y GIG yng Nghymru
  • DVLA
  • Virgin Media
  • Y Gofrestrfa Tir
  • Airbus ym Mrychdwn
  • Prifysgolion a cholegau addysg uwch/addysg bellach
  • Y Ganolfan Byd Gwaith
  • Working Links
  • Heddlu Dyfed-Powys
  • Admiral Group
  • Gwasanaeth Ambiwlans De Cymru
  • Stadiwm Liberty
  • Y Swyddfa Eiddo Deallusol
  • International Rectifier
  • PHS Group
  • Farmers Boy (rhan o Morrisons)