Maint y testun: A A A
Cyferbynnedd:
Gwrando: More about BrowseAloud
Telerau ac amodau

Telerau ac amodau

Cywirdeb Gwybodaeth a Chynnwys

Tra ein bod ni’n gwneud pob ymdrech posibl i sicrhau cywirdeb yr wybodaeth sy’n gynwysedig yn y wefan hon, ar adegau, gellir gwneud camgymeriadau. Mewn achos o gamgymeriad, cysylltwch â ni ar unwaith os gwelwch yn dda ar general@traveline.cymru er mwyn i ni allu ei gywiro.

Argaeledd y Wefan

Ni allwn warantu y bydd y wefan hon ar gael bob amser ac nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb os nad yw ar gael.

Dolenni Allanol

Mae gwefan Traveline Cymru yn rhestru dolenni a chyfeiriadau i wefannau eraill a weithredir gan drydydd person. Nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am y gwefannau hynny ac ni ellir ein dal yn gyfrifol am y cynnwys, argaeledd, cynnyrch, gwasanaethau neu unrhyw ddeunydd a ddarperir ganddynt neu sydd ar gael drwy’r gwefannau hyn.

Amserau Agor y Ganolfan Alwadau

Mae modd cysylltu â Traveline Cymru ar 0300 200 22 33 am bris galwad leol, rhwng 7am a 8pm bob dydd ar wahân i Noswyl Nadolig, Dydd Nadolig, Gŵyl San Steffan, Nos Galan a Dydd Calan, pan fydd gwasanaeth cyfyngedig ar gael. Rydym yn cadw’r hawl i addasu’r amserau hyn os oes angen gwneud hynny, ond byddwn yn gwneud pob ymdrech i roi gwybod i aelodau’r cyhoedd drwy’r wefan hon.

Prisiau Traveline Cymru

Gallwch ffonio rhif ffôn Canolfan Gyswllt Traveline Cymru, 0300 200 22 33, am bris galwad leol. Os oes gennych funudau neu alwadau yn rhad ac am ddim ar eich ffôn symudol, bydd galwadau i’r rhif hwn yn cael eu cynnwys yn rhan o’r munudau neu’r galwadau hynny. Mae’r Ganolfan Gyswllt ar agor rhwng 07:00 a 20:00 bob dydd, ar wahân i Noswyl Nadolig, Dydd Nadolig, Gŵyl San Steffan, Nos Galan a Dydd Calan pan fydd gwasanaeth cyfyngedig ar gael.

Mae negeseuon testun i Bus Times trwy wasanaeth Testun yn costio’r un faint â neges destun arferol (gall hyn amrywio o un gweithredydd ffôn i un arall). Mae’r ymateb yn rhad ac am ddim i’r ymholwr, gan ei fod wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae’r wybodaeth sy’n gynwysedig yn y wefan hon yn rhad ac am ddim i ddefnyddiwr preifat. Os oes angen yr wybodaeth ar gwmni allanol, bydd yn rhaid gwneud cais i Traveline Cymru, ac ni all cwmni allanol godi tâl am y ddarpariaeth nac am y defnydd o ddata Traveline Cymru. Am ganiatâd i ddefnyddio’n data, cysylltwch â data@traveline.cymru os gwelwch yn dda.