Maint y testun: A A A
Cyferbynnedd:
Gwrando: More about BrowseAloud
Parcio a theithio

Parcio a theithio

Mae gwasanaethau parcio a theithio’n ffordd hawdd a chyfleus o deithio heb orfod poeni am yrru neu barcio yng nghanol trefi. Gallwch barcio eich car yn y safle parcio a theithio sydd fwyaf cyfleus i chi, a gadael i’r bws fynd â chi i ben draw’r daith.

Mae defnyddio gwasanaethau parcio a theithio’n cynnig llawer o fanteision, er enghraifft:

  • Mae’n golygu y gallwch osgoi’r drafferth o geisio dod o hyd i le parcio yng nghanol y dref. Yn ogystal, mae meysydd parcio yng nghanol trefi’n gallu bod yn ddrud ond mae’r rhan fwyaf o wasanaethau parcio a theithio’n rhad ac am ddim.
  • Osgoi traffig. Gyda lonydd sy’n rhoi blaenoriaeth i fysiau, efallai y gwelwch y byddwch yn cyrraedd pen eich taith yn gynt na phe baech wedi gyrru, gan osgoi straen ar yr un pryd.

Gallwch hefyd fynd i’r wefan www.parkandride.net i weld cyfeiriadur ar-lein o’r holl safleoedd parcio a theithio sydd ar gael yn y DU.