Os oes angen rhagor o help arnoch i deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus, mae rhywfaint o wybodaeth ddefnyddiol i’w chael isod am y gwasanaethau a’r cyrff eraill a all eich helpu i ddiwallu eich anghenion o ran trafnidiaeth.
Trafnidiaeth gymunedol a thrafnidiaeth sy’n ymateb i’r galw
Mae gwasanaethau trafnidiaeth gymunedol a thrafnidiaeth sy’n ymateb i’r galw yn wasanaethau bws lleol a gaiff eu teilwra i anghenion y teithiwr. Mae’r gwasanaethau yn darparu trafnidiaeth i bobl a fyddai, fel arall, dan anfantais oherwydd eu hoedran, eu hanawsterau symud, eu hanabledd neu’u lleoliad, ac maent yn cynnig gwasanaeth o ddrws i ddrws a gaiff ei deilwra.
I gael rhagor o wybodaeth am drafnidiaeth gymunedol a thrafnidiaeth sy’n ymateb i’r galw yng Nghymru, cliciwch yma.
Bus Users UK
Sefydliad dielw yw Bus Users UK sy’n gweithio ar ran pawb sy’n defnyddio bysiau, er mwyn sicrhau bod gweithredwyr yn diwallu eu hanghenion. Os oes gennych unrhyw gwynion am wasanaeth neu os ydych am rannu eich barn a’ch profiadau, ewch i wefan Bus Users UK i gael rhagor o wybodaeth.
Teithio gydag anabledd
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am deithio gydag anabledd, ewch i’n tudalen ‘Teithio gydag anabledd’.
Cerdyn Teithio Rhatach Cymru
Gallwch ddefnyddio Cerdyn Teithio Rhatach Cymru ar bob gwasanaeth bws lleol yng Nghymru. Ni allwch ddefnyddio Cerdyn Teithio Rhatach Cymru i deithio yn Lloegr, ac ni allwch ddefnyddio Cerdyn Teithio Rhatach Lloegr i deithio yng Nghymru.
Cofiwch nad oes modd i chi ddefnyddio eich Cerdyn Teithio Rhatach ar wasanaethau bws megis National Express neu Megabus.
Caiff y cynllun ei redeg gan awdurdodau lleol ar hyn o bryd. Os hoffech wneud cais am Gerdyn Teithio Rhatach, cysylltwch â’ch awdurdod lleol a fydd yn gallu rhoi cerdyn i chi os ydych yn gymwys i’w gael.
Cliciwch ar y dolenni cyswllt isod i gael gwybodaeth am Gardiau Teithio Rhatach gan y cynghorau lleol canlynol:
Blaenau Gwent
Pen-y-bont ar Ogwr
Caerffili
Caerdydd
Sir Gaerfyrddin
Ceredigion
Conwy
Sir Ddinbych
Sir y Fflint
Gwynedd
Ynys Môn
Merthyr Tudful
Castell-nedd Port Talbot
Casnewydd
Sir Benfro
Powys
Rhondda Cynon Taf
Abertawe
Torfaen
Bro Morgannwg
Wrecsam
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y Cerdyn Teithio Rhatach, ewch i wefan Llywodraeth Cymru yma.
Trenau Arriva Cymru
Gall y rheini sydd â Cherdyn Teithio Rhatach a roddwyd gan awdurdodau lleol Cymru deithio yn rhad ac am ddim ar unrhyw un o lwybrau Trenau Arriva Cymru ar y cynlluniau canlynol:
Wrecsam – Pont Penarlâg
Llinell Arfordir y Cambrian (Machynlleth – Pwllheli)
Llinell Dyffryn Conwy
Llinell Calon Cymru
Bydd y cynllun hwn yn rhedeg tan fis Mawrth 2017. Os hoffech gael mwy o wybodaeth ewch i wefan Trenau Arriva Cymru.
Dolenni defnyddiol
Bay Trans – Teithio ym Mae Abertawe, y Mwmbwls a Gŵyr
Gwasanaeth Traffig a Theithio BBC Cymru
Y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig
Bus Users UK
Bwcabus
Maes Awyr Caerdydd
Cymdeithas Cludiant Cymunedol Cymru
Y Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr
CTC Cycling
Trafnidiaeth Gymunedol a Thrafnidiaeth sy’n Ymateb i’r Galw
Yr Adran Drafnidiaeth
Eurostar
Cadw Caerdydd i Symud
Links Air
National Rail
Parcio a Theithio
Passenger Focus
Lonydd Glas Sir Benfro
Plus Bus
Sustrans
Traffig Cymru
Trainline
Trawscymru
Llywodraeth Cymru