Maint y testun: A A A
Cyferbynnedd:
Gwrando: More about BrowseAloud
Cwestiynau cyffredin

Cwestiynau cyffredin

C. Sut mae cynllunio taith?
A. Ewch i’n Cynlluniwr Taith sydd yn yr hafan. Nodwch fan cychwyn eich taith, pen y daith a’r dyddiad a’r amser yr ydych am deithio. Gallwch hefyd ddewis a fyddech yn hoffi teithio ar y bws, ar y trên neu’n syth i’r lleoliad, yn ogystal â nodi eich cyflymder cerdded arferol a faint o weithiau y byddech yn fodlon newid. Yna, wrth glicio ar ‘Cynllunio fy nhaith’, fe welwch chi fanylion y llwybrau sydd ar gael ar gyfer y daith yr ydych wedi’i dewis. Cliciwch ar yr amser yr ydych yn ei ffafrio, a bydd manylion llawn y daith yn ymddangos gan gynnwys mapiau o’r daith, amserlenni, gwybodaeth am brisiau tocynnau a gwybodaeth am unrhyw broblemau teithio.

Fel arall, gallwch gynllunio eich taith drwy ffonio ein Canolfan Gyswllt ar 0300 200 22 33 am bris galwad leol, rhwng 07:00 a 20:00 bob dydd; bydd yr asiantiaid yno wrth law i’ch helpu gydag unrhyw ymholiadau sydd gennych ynghylch teithiau. Gwasanaeth cyfyngedig sydd ar gael ar Noswyl Nadolig, Dydd Nadolig, Gŵyl San Steffan, Nos Galan a Dydd Calan.

C. Sut mae dod o hyd i amserlenni?
A. Ewch i’n tudalen Amserlenni lle gallwch chwilio am amserlenni’n ôl rhif y gwasanaeth neu’n ôl eich lleoliad. Pan fyddwch wedi llenwi’r meysydd chwilio ac wedi clicio ar ‘Chwilio’, bydd rhestr o amserlenni sy’n cyfateb i’ch meini prawf yn ymddangos. Cliciwch ar amserlen i gadarnhau eich dewis, ac yna bydd modd i chi weld yr amserlen lawn yn ogystal â map o’r llwybr. At hynny, ar waelod y dudalen, gallwch ddewis lawrlwytho’r amserlen PDF draddodiadol os oes yn well gennych wneud hynny.

C. Sut mae defnyddio’r Chwiliwr Arosfannau Bysiau?
A. Nodwch eich lleoliad neu god yr arhosfan bysiau (os ydych yn ei wybod) yn y blwch chwilio, a bydd y map rhyngweithiol yn dangos yr arosfannau bysiau sydd yn yr ardal honno. Cliciwch ar eicon oren i ddewis arhosfan bysiau, a bydd manylion yr arhosfan yn ymddangos yn ogystal ag amseroedd y bysiau nesaf a ddylai gyrraedd yno. Caiff rhifau gwasanaeth y bysiau eu harddangos yma, a gallwch glicio arnynt i agor amserlen y gwasanaeth dan sylw.

C. Sut mae cofrestru i agor cyfrif, a beth mae’n ei wneud?
A. Yn y gornel dde ar frig ein gwefan, cliciwch ar y botwm ‘Mewngofnodi’. Yna, gallwch lenwi’r ffurflen gofrestru er mwyn agor cyfrif. Bydd cael cyfrif yn eich galluogi i gadw eich hoff arosfannau, teithiau ac amserlenni, sy’n golygu y bydd modd i chi gael gafael arnynt yn hawdd ac yn syth o’ch cyfrif. Yn ogystal, byddwch yn gallu gweld y problemau teithio sy’n berthnasol i’r gwasanaethau yr ydych wedi’u dewis fel ffefrynnau.

C. Sut mae cadw fy hoff deithiau, amserlenni ac arosfannau bysiau?
A: Pan fyddwch wedi dod o hyd i daith, amserlen neu arhosfan bysiau drwy’r wefan, bydd opsiwn ‘Ychwanegu at fy ffefrynnau’ i’w weld ar y dudalen. Drwy glicio ar y botwm hwn bydd y daith, yr amserlen neu’r arhosfan bysiau’n ymddangos yn eich cyfrif.

C. Sut mae chwilio am broblemau teithio?
A. Ewch i’n tudalen ar gyfer problemau teithio, a bydd yr holl broblemau teithio a ddisgwylir ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus, yr ydym yn ymwybodol ohonynt, wedi’u rhestru yno. Yn ogystal, gallwch ddewis chwilio am broblemau teithio yn ôl rhif y gwasanaeth a’r gweithredwr, a hidlo’r canlyniadau er mwyn gweld y rhai sy’n berthnasol i chi.

C. Beth yw ‘Problemau teithio sy’n berthnasol i mi’?
A. Pan fyddwch wedi cadw hoff daith, amserlen neu arhosfan bysiau yn eich cyfrif, bydd yr adran ‘Problemau teithio sy’n berthnasol i mi’ yn dangos y problemau teithio sy'n gysylltiedig â’ch ffefrynnau’n unig.

C. Ble y gallaf ddod o hyd i wybodaeth am brisiau tocynnau?
A. Gellir gweld gwybodaeth am brisiau tocynnau drwy ganlyniadau ein Cynlluniwr Taith. Pan fydd manylion y daith wedi’u rhestru, ceir opsiwnGweld prisiau tocynnau’. Cliciwch ar y botwm hwn, a bydd rhestr o’r tocynnau sydd ar gael a’u prisiau yn ymddangos. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n tudalen Prisiau tocynnau. Fel arall, gallwch gysylltu â’n Canolfan Gyswllt ar 0300 200 22 33.

C. Ble y gallaf gael gafael ar Gerdyn Teithio Rhatach Cymru?
A. Os ydych yn 60 oed neu’n hŷn neu os oes gennych anabledd, byddwch yn gymwys i deithio’n rhad ac am ddim yng Nghymru drwy’r cynllun Cerdyn Teithio Rhatach. Mae ffurflenni cais ar gael yn eich Swyddfa Bost leol. Fel arall, cysylltwch ag Adran Drafnidiaeth eich cyngor lleol, a fydd yn gallu helpu. Gellir gweld dolenni ar gyfer pob awdurdod lleol ar ein tudalen Dolenni Defnyddiol.

C. Ble y gallaf ddefnyddio Cerdyn Teithio Rhatach Cymru?
A. Gallwch ddefnyddio Cerdyn Teithio Rhatach Cymru ar bob gwasanaeth bws lleol yng Nghymru. Ni allwch ddefnyddio Cerdyn Teithio Rhatach Cymru i deithio yn Lloegr, ac ni allwch ddefnyddio Cerdyn Teithio Rhatach Lloegr i deithio yng Nghymru.

Cofiwch nad oes modd i chi ddefnyddio eich Cerdyn Teithio Rhatach ar wasanaethau bws megis National Express neu Megabus.

Caiff y cynllun ei redeg gan awdurdodau lleol ar hyn o bryd. Os hoffech wneud cais am Gerdyn Teithio Rhatach, cysylltwch â’ch awdurdod lleol a fydd yn gallu rhoi cerdyn i chi os ydych yn gymwys i’w gael.

Cliciwch ar y dolenni cyswllt isod i gael gwybodaeth am Gardiau Teithio Rhatach gan y cynghorau lleol canlynol:

Blaenau Gwent
Pen-y-bont ar Ogwr
Caerffili
Caerdydd
Sir Gaerfyrddin
Ceredigion
Conwy
Sir Ddinbych
Sir y Fflint
Gwynedd
Ynys Môn
Merthyr Tudful  
Castell-nedd Port Talbot
Casnewydd
Sir Benfro
Powys
Rhondda Cynon Taf
Abertawe
Torfaen
Bro Morgannwg
Wrecsam

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y Cerdyn Teithio Rhatach, ewch i wefan Llywodraeth Cymru yma.

Trenau Arriva Cymru
Gall y rheini sydd â Cherdyn Teithio Rhatach a roddwyd gan awdurdodau lleol Cymru deithio yn rhad ac am ddim ar unrhyw un o lwybrau Trenau Arriva Cymru ar y cynlluniau canlynol:

Wrecsam – Pont Penarlâg

Llinell Arfordir y Cambrian (Machynlleth – Pwllheli)

Llinell Dyffryn Conwy

Llinell Calon Cymru

Bydd y cynllun hwn yn rhedeg tan fis Mawrth 2017. Os hoffech gael mwy o wybodaeth ewch i wefan Trenau Arriva Cymru.

 

C. Ble y gallaf gael gafael ar wybodaeth am deithio gydag anabledd
A. Mae Traveline Cymru yn ceisio darparu cymaint o wybodaeth ag sy’n bosibl am deithio gydag anabledd. Ewch i’n tudalen Teithio gydag anabledd i gael rhagor o wybodaeth.

C. Sut mae cwyno am gwmni bysiau?
A. I gwyno am wasanaeth bws, cysylltwch â Bus Users UK ar 029 2022 1370 neu ebostiwch wales@bususers.org. I gwyno am wasanaethau trên, cysylltwch â Passenger Focus ar 08453 022 022 neu ebostiwch hello@passengerfocus.org.uk.

C. Sut mae cwyno am Traveline Cymru?
A. I gwyno am unrhyw un o wasanaethau Traveline Cymru, llenwch ein ffurflen adborth ar y dudalen Cysylltu â ni ac fe wnawn ni ymateb cyn pen 10 diwrnod gwaith. Fel arall, gallwch nodi eich cwyn yn ysgrifenedig a’i hanfon i’r cyfeiriad canlynol:

 

Adran Gwynion Traveline Cymru
Traveline Cymru
Blwch Post 83
Caerdydd CF11 1NA