Bydd Pencampwriaethau Hanner Marathon y Byd Cymdeithas Ryngwladol y Ffederasiynau Athletau (IAAF)/Prifysgol Caerdydd yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn 26 Mawrth 2016.
Mae disgwyl i’r digwyddiad fod ymysg y rasys hir mwyaf cyffrous a welwyd yn y DU yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae’r marathon yn rhoi cyfle i bobl o bob oed a gallu redeg ochr yn ochr â rhai o athletwyr gorau’r byd ac mae’n rhoi cyfle iddynt ennill eu medal ‘pencampwriaeth byd’ eu hunain.
Mae’n siŵr y bydd y digwyddiad yn creu llawer iawn o brysurdeb, a bydd digon o gyffro ac adloniant ar gael i’r cyfranogwyr a’r gwylwyr fel ei gilydd.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Hanner Marathon y Byd yma.
Yn ystod y digwyddiad, bydd nifer o ffyrdd ar gau ledled Caerdydd. Cliciwch yma i weld manylion llawn y ffyrdd a fydd ar gau.
Cliciwch ar y gweithredwyr isod i weld eu trefniadau o ran trafnidiaeth ar gyfer y diwrnod.