Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu pedwar o Gydlynwyr Cynlluniau Teithio ar draws Cymru i’ch cefnogi drwy bob cam o’r broses o ysgrifennu a gweithredu Cynllun Teithio.
Mae’r tîm yn gweithio gyda busnesau a sefydliadau eraill ac yn gweld rhai enghreifftiau da iawn o newid mewn ymddygiad o ran teithio.
Does dim gwahaniaeth beth yw maint eich sefydliad, mae’r tîm yn barod i’ch helpu a’ch cefnogi. Dyma rai o’r manteision y mae sefydliadau sydd eisoes yn gweithio gyda’r tîm wedi’u gweld:
Yn ogystal, gall Cynlluniau Teithio ddarparu tystiolaeth werthfawr wrth geisio ennill Gwobrau a chyrraedd Safonau eraill, megis:
Dolenni defnyddiol:
Y Safon Iechyd Corfforaethol
Buddsoddwyr mewn Pobl
Groundwork Cymru
Mae’r ddwy fenter newydd ganlynol ar gael erbyn hyn i sefydliadau ledled Cymru:
Hyfforddiant Teithio Doeth
Mae’r pecyn hyfforddiant dibynadwy hwn, sydd wedi’i deilwra, ar gael yn rhad ac am ddim i bob busnes a sefydliad ar draws Cymru.
Gan weithio gyda’i bartneriaid – Traveline Cymru, Sustrans a darparwyr lleol – bydd y Tîm Cynlluniau Teithio Rhanbarthol yn darparu sesiynau hyfforddiant i grwp o unigolion a fydd yna’n gallu bod yn hyrwyddwyr teithio cynaliadwy i’w sefydliad. Bydd yr hyrwyddwyr hynny’n bobl gyswllt ar gyfer gweithwyr/myfyrwyr/ymwelwyr, neu unrhyw bobl eraill y mae angen iddynt wneud dewisiadau ynghylch teithio mewn sefydliad.
Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.
Gwobrau Cynlluniau Teithio Cymru
Cynllun gwobrwyo a chydnabod sy’n dathlu cyflawniadau sefydliadau yw Gwobrau Cynlluniau Teithio Cymru. Mae llawer o sefydliadau yng Nghymru yn arwain y ffordd gyda’u dull cynaliadwy o ymdrin â theithio a defnyddio trafnidiaeth yn eu sefydliad. Mae llawer ohonynt o’r farn bod gweithredu Cynllun Teithio yn rhan o’u cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol.
Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth neu cysylltwch â’ch Cydlynydd Cynlluniau Teithio Rhanbarthol yn activetravel@wales.gsi.gov.uk
Fforymau a rhwydweithiau
Mae nifer o fforymau a rhwydweithiau Cynlluniau Teithio ar gael yng Nghymru y byddech efallai’n hoffi eu mynychu, neu os nad oes un ar gael yn eich ardal efallai yr hoffech gynnal un. Cysylltwch â’ch Cydlynydd Cynlluniau Teithio Rhanbarthol i gael rhagor o fanylion a gwybodaeth am y cynnyrch a’r gwasanaethau eraill sydd ar gael.
Os oes gennych eich fforwm neu’ch rhwydwaith eich hun ac y byddech yn hoffi i un o’r Cydlynwyr Cynlluniau Teithio Rhanbarthol ei fynychu, mae croeso i chi ein gwahodd iddo.
Pwy y mae’r Cydlynwyr Cynlluniau Teithio Rhanbarthol eisoes yn cydweithio â nhw?
Dyma rai o’r sefydliadau yng Nghymru sydd eisoes yn gweithio gyda’r Cydlynwyr Cynlluniau Teithio ac sy’n gweld y manteision.